Erbyn hyn mae Croeso Teifi yn Sefydliad Corfforedig Elusennol gyda'i Ymddiriedolwyr ei hun!
Ar adegau, mae’r
daith yn teimlo’n ddiddiwedd, dim ond i gael y caniatâd angenrheidiol i
gyflawni ein nod cymedrol o gynnal ychydig o deuluoedd o Syria yn Aberteifi.
Yn y dyddiau
diwethaf rydym wedi pasio dwy garreg filltir bwysig. Daethon ni’n SEC -
Sefydliad Elusennol Corfforedig a chyrraedd £10,200 yn ein cyfrif banc. Dau fis
yn ôl roedd gennym £7,200. Yfory bydd gennym bron i £11,000.
Mae'r twf
ariannol rhyfeddol hwn o ganlyniad i frwdfrydedd a haelioni llawer o bobl, pobl
leol i gyd neu yn hysbys i ni. Ni fu unrhyw grantiau na chyllidwyr dorf eto.
Felly, gan ein
bod wedi cyrraedd y cerrig milltir hyn, o'r diwedd gall yr awdurdod lleol yng
Ngheredigion drefnu cyfarfod gyda ni, a gobeithio cawn eu cymeradwyaeth, ac
wedyn gall cymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref ddilyn. A’r amseru? Rydym yn
dibynnu ar bobl eraill y gall eu hamseru fod yn anrhagweladwy, ond rydym yn
gobeithio y cawn y cymeradwyaethau hyn o fewn 2-3 mis ac wedyn gallwn ddechrau
chwilio am y teulu neu deuluoedd iawn ar gyfer Aberteifi.
Mae cyrraedd y
pwynt hwn wedi golygu llawer o waith - erbyn hyn mae gennym bolisïau o bob
math, rydym yn mynd i lawer o hyfforddiant, weithiau mor bell â Llundain.
Cawsom hyfforddiant ymwybyddiaeth trawma heddiw. Gwelsom ddau landlord llawn
cydymdeimlad ac mae gennym dimau gyda chydlynwyr arweiniol ar gyfer pob agwedd
ar y gwaith, mwy neu lai. Mae ychydig o swyddi gwag o hyd os ydych chi sy’n darllen
hwn â rhywfaint o amser neu sgiliau i’w rhoi. Rydym i gyd yn wirfoddolwyr ac
mae perygl o flino bob amser: bydd ychydig o bobl i fynd i'r afael â phob tasg
yn gwneud gwahaniaeth mawr.
E-bostiwch os
gallwch chi helpu: info@croesoteifi.org
Ac mae angen
cyrraedd carreg filltir ariannol arall i gynnal dau deulu.
Mae angen
£18,000 i gyd. Mwy os bydd yr ail deulu’n un estynedig.
Ar ddydd Sadwrn Mehefin 24, rydym yn bwriadu cynnal bore coffi i roi gwybodaeth mewn neuadd
eglwys gyda ffilm fach. Nid digwyddiad er mwyn codi fydd hwn, ond i drafod y
prosiect, ceisio syniadau ar gyfer gwelliannau a rhannu ein gwybodaeth hyd yn
hyn.
Os ydych chi
eisiau helpu, wnewch ar bob cyfrif, ond sylwch y gall eich brwdfrydedd eich
denu i mewn i wneud llawer o waith. Efallai y byddwch yn magu sgiliau a
gwybodaeth mewn meysydd annisgwyl. Gallech redeg ocsiwn neu gael cyfarfod
gyda'r Swyddfa Gartref i ddweud wrthynt sut i wneud eu gwaith, neu blygu
tocynnau raffl, neu ddysgu am iechyd meddwl, Excel neu Arabeg, neu wrando ar y
Koran yn cael ei ganu yn yr heulwen.
Rwy wedi blino o
hyd ar ôl fy sifft nos yn hwyr nos Sadwrn lle roedd rhaid i mi wrando ar
ychydig o’r gerddoriaeth fwyaf trawiadol yng Nghymru, bwyta cawl, yfed gwin a
gwneud pethau na fyddech yn meiddio eu gwneud mewn parti. [Noson Bara Menyn]
Rydym yn rhan o
fudiad ehangach, ac yn enwedig yng Nghymru mae timau tebyg i ni yn datblygu
cynlluniau tebyg yng Nghaerdydd, Aberystwyth, Abergwaun, Arberth, Hwlffordd.
Disgwylir y teulu cyntaf a noddir yn gymunedol yng Nghymru ym mis Mehefin.
Maent yn Cwrdiaid, sy’n lleiafrif yn eu gwlad gyda rhai traddodiadau gwych gan
gynnwys cydraddoldeb rhwng dynion a menywod.
Os ydych yn
teimlo'n ddewr neu wedi diflasu neu heb eich gwerthfawrogi neu yn hael, dewch
i'n helpu ni, neidiwch i mewn a nofio; mae’r dŵr yn ffres ond yn hyfryd.
Rhannwch ...