Mae'n naw mis ers i'r teulu cyntaf o Syria gyrraedd i ddechrau bywyd newydd yn Aberteifi. Wrth ffoi rhyfel yn Syria, roeddent wedi treulio tair blynedd ymhlith y miliynau o ffoaduriaid yn Libanus. Meddai Muhanad "Yna, doedden ni ddim yn gallu dychmygu unrhyw ddyfodol i'n plant, erbyn hyn mae ganddynt ddyfodol eto. Rydym yn hapus iawn ac yn dweud diolch yn fawr i bawb."
Mae gan y plant lawer o ffrindiau yn yr ysgol ac wrth eu cartref. Maent yn siarad Cymraeg yn well na Saesneg fel eu bod nhw a'u ffrindiau yn chwarae yn y Gymraeg gyda'i gilydd. Mae eu tad wedi gwneud profiad gwaith gydag amrywiaeth o fusnesau: bwyty, caffi, gyda saer, tyfu llysiau organig ac mewn siop elusen. Nawr mae wedi gwneud cais i'r coleg fel y gall wella ei sgiliau ymarferol i gael swydd lawn-amser.
Treuliodd Karwan flwyddyn yn Aberteifi yn gwirfoddoli i ddwy elusen fel cyfieithydd a mynychu Coleg Ceredigion lle cafodd wobr arbennig am gyflawniad personol eithriadol. Daeth i'n helpu ni cyn gynted ag y cafodd statws ffoadur ar ôl ffoi o Irac a blwyddyn ddiflas mewn tŷ gwasgaru yn y DU. Fe wnaeth Coleg Ceredigion ei helpu i fynd i Brifysgol Caerdydd i astudio ei faes dewisol o beirianneg i barhau â'i yrfa yn Irac, a dyna’i freuddwyd. Rhoddodd Croeso Teifi, yr elusen a’i noddodd, set o offer barbwr iddo. Mae bellach yn gweithio'n amser llawn fel barbwr ac yn cynilo ar gyfer prifysgol.
Mae'r ffaith bod y teulu a Karwen wedi cael eu hintegreiddio mor llwyddiannus yn ganlyniad i ddealltwriaeth a chynhesrwydd anhygoel pobl, busnesau a sefydliadau yn y dref. Mae gwirfoddolwyr Croeso Teifi yn cyflwyno a rheoli'r gwaith fel tîm diflino ac ymroddgar. Rydym hefyd yn cydweithio â'r Awdurdodau, yn eistedd ar y bartneriaeth gyhoeddus gyda'r cyrff statudol ac yn cysylltu â'r Swyddfa Gartref.
Mae tîm newydd nawr yn bwriadu noddi ail deulu. Dylai unrhyw un sy'n byw yn Aberteifi sy'n dymuno helpu gysylltu. Bydd yn cymryd rhai misoedd gan fod paratoadau a chaniatâd ymarferol i'w cael.
Dylai trefi neu bentrefi eraill sy'n dymuno ffurfio grŵp i noddi gysylltu â ni. Gallwn gynnig llawer o help ac arweiniad.
Bydd gan Croeso Teifi stondin yn Sioe Amaethyddol Aberteifi sydd ar ddydd Sadwrn 4 Awst. Ac fe ddewch chi o hyd i ni yng Ngharnifal Aberteifi ddydd Sadwrn Awst 11eg.
Croeso Teifi Facebook page
Twitter
No comments:
Post a Comment