Showing posts with label community sponsorship. Show all posts
Showing posts with label community sponsorship. Show all posts

20/04/2017

Codwr Arian Hwyl, Trefdraeth, adroddiad

Haenau o sgiliau. Sesiwn llawn hwyl ‘sgiliau ar wib’ yn yr achlysur codi arian i Croeso Teifi ddydd Gwener y Groglith. Plentyn yn dangos ffeltio nodwydd; ar y bwrdd nesaf, Claddu Gwyrdd; ar y bwrdd y tu ôl i hwnnw, straeon yn Gymraeg; yna Origami yn cael ei ddangos gan geisiwr lloches; y bwrdd olaf ar yr ochr hon i'r neuadd - dysgu Arabeg gan ferch o Gymru. Bob 20 munud canodd cloch er mwyn i bobl symud i sgiliau gwahanol os dymunent. Hefyd, roedd: datrys gwrthdaro, gwaith coed, gosod stôf goed, straeon o Gymru, a mwy.
Roedd yn arbrawf ac roedd yn gweithio.

Wedyn roedd Swper: Cyw Iâr neu ginio Syria llysieuol gyda selsig a thatws stwnsh ar gyfer y plant. Roedd y reis Pilau wedi’i addurno ag almonau tenau, cennin a chynildeb. Doug Hatton oedd y cogydd arweiniol a gyfunodd liaws o flasau, gyda help Kim ac eraill yn y gegin. Roedd y cig i gyd yn dod o gigyddion lleol, gan gynnwys pentwr o selsig a roddwyd gan Ken Davies o Grymych. Mae ein holl lysiau yn organig a lleol, o Glebelands, Aberteifi / Llandudoch. Rhoddwyd sacheidiau.
Y pwdin oedd baklava llawn dop o gnau drud a roddwyd gan Go Mango yn Aberteifi, gyda mêl, dŵr rhosod, a chynhwysion coeth gwerthfawr eraill, yr hufen yn stiff ac yn euraid gyda saffrwm a fanila go iawn. Nid oedd dim ar ôl ar y diwedd, a’r gwarged yn diflannu cyn golchi’r llestri.















Links/dolenau

17/03/2017

A Mother's Day themed fundraiser....


A Mother's Day Fundraiser with a treat for someone at the end of it... a donation from Rhosygilwen diolch/thank you

 

The how to: Donate directly into our bank account:  Lloyds bank, Croeso Teifi; sort code 30-99-08;  Account 22188160. Add as the reference: Mum + your name.
Then send an email to Croeso Teifi crynwyrbach@gmail.com with your name and telephone number. And tell your Mum!
The winner will selected at random on Friday at 4.00

LINK: Rhosygilwen's Mother's Day Jazz Brunch

Codi Arian trwy Ddydd y Mamau gyda pheth annisgwyl i rywun ar y diwedd ... rhodd gan Rhosygilwen



Cyfrannwch yn uniongyrchol i'n cyfrif banc: Lloyds banc, Croeso Teifi; cod didoli 30-99-08; Cyfrif 22188160. Ychwanegwch fel cyfeirnod: Mum + eich enw.

Yna anfonwch e-bost at Croeso Teifi crynwyrbach@gmail.com  [neu
neges Facebook] gyda'ch enw a rhif ffôn. a dweud wrth eich mam

Dewisir yr enillydd ar hap ddydd Gwener am 14.00


Links:
Facebook
Twitter
Donate Volunteer Fundraise Contact // Rhoi Gwirfoddoli Codi Arian Cysylltu
 
 

03/03/2017

Croeso Cymunedol i Deuluoedd o Syria


Mae cynllun y llywodraeth o'r enw 'Nawdd Cymunedol' yn caniatáu i ni ddod â dau neu dri theulu awdurdodedig sy’n ffoi rhag rhyfel Syria i gartref diogel yn Aberteifi. Byddwn yn cwrdd â nhw yn y maes awyr ac yn darparu cartref a chynllun integreiddio. Gallant weithio o'r diwrnod cyntaf, a chael yr un budd-daliadau a chefnogaeth â theulu Prydeinig, am bum mlynedd. Gallant wedyn wneud cais i aros yma os dymunant, neu ddychwelyd i Syria os bydd yn briodol. Mae gennym gyfieithwyr, ysgolion, athrawon, cartrefi a ffrindiau yn barod ar eu cyfer.


Mae cynllun y llywodraeth yn mynnu bod digon o arian yn ein helusen er mwyn dangos ein bod yn gallu gwneud y gwaith yn dda. Mae angen i ni godi £9,000 i achub teulu. Os hoffech chi roi neu helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni

 Mae Nawdd Cymunedol:


·          ar wahân i gynlluniau'r llywodraeth


·          yn cael ei ariannu a’i redeg gan y gymuned


·          yn cael ei fonitro gan y Swyddfa Gartref


·          yn arloesol: mae hyn yn ffordd newydd i fynd i'r afael â heriau mewnfudo a ffoaduriaid yn y DU


·          wedi’i fodelu ar gynllun noddi cymunedol Canada sydd yn boblogaidd a llwyddiannus ac sy’n rhedeg ers 40 mlynedd.


·          yn agored i’r gymuned gyfan. Cysylltwch os hoffech helpu mewn unrhyw ffordd


·          yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol a gwasanaethau cyhoeddus


·          yn lledaenu i trwy Gymru
   

02/03/2017

A Community Welcome for Syrian Families


A government scheme named 'Community Sponsorship' allows us to bring two or three approved families fleeing from war-torn Syria to a safe home in Cardigan. We will meet them at the airport and provide a home and an integration plan. They can work from day one, and have the same benefits and support as a British family, for five years. They can then apply to stay here if they wish, or return to Syria if appropriate. We have interpreters, schools, teachers, homes and friends ready for them.

The government scheme demands that we have enough money in our charity to show that we can do the job well. We need to raise £9,000 to save a family. If you would like to donate or to help in any way, do get in touch.

 Community Sponsorship is:

·          separate from government schemes

·          paid for and run by the community

·          monitored by the Home Office

·          innovative: this is a new way to address the immigration and refugee challenges in the UK

·          modelled on Canada's successful popular scheme which has run for 40 years

·          open to the whole community. Get in touch if you would like to help in any way

·          working with the Local Authority and public services

·          spreading through Wales
Links:
Facebook
Twitter
Donate Volunteer Fundraise Contact // Rhoi Gwirfoddoli Codi Arian Cysylltu
 



 

 

 

 

 



 

 



01/03/2017

codi arian hwyl // fun fundraiser Ebrill 14 April Manylion / details

5.30 - 7.30 Skill Exchange
Power woodwork
Arabic
Sort IT out (computer and phone surgery)
Felting art
Welsh stories
Install renewables
Conflict resolution
Origami
Dog training
Green burial
Price: £10 to surf the skills of your choice - Concessions available
six x 20 minutes sessions, or spend longer at fewer.

7.30 Dinner
Eastern style and Welsh dinners + bar + background music £11

8.15 Auction led by BBC commentator Kim Thomas
Some of the fabulous prizes to go under the hammer:
Painting by Keone
Replica bird made of natural materials by FForest Felt
Holistic massage from Karen Kildegard
Two course meal for two at Newport Canteen
Two course meal for two at Llys Meddyg
MOT at Newport Garage
Case of Bluestone beer (artisan brewery)
Colourful tree from Ty Rhos Trees
Cranial sacral therapy from Simon Whitehead
Yoga at woodland retreat Felinganol
Holiday near Newport with hot-tub

Raffle: prizes include NomNom chocolate

Raising money for commmunity sponsored settlement:
a welcome for Syrian families in Cardigan


click on photo to see larger

5.30 - 7.30 Cyfnewidfa Sgiliau
Gwaith coed gydag offer pŵer
Arabeg
Trin TG (meddygfa i’r cyfrifiadur a’r ffôn)
Crefftau ffeltio
Straeon Cymraeg
Gosod ynni adnewyddadwy a byw arno
Datrys gwrthdaro
Origami
Hyfforddi cŵn
Claddu gwyrdd
Pris: £10 i geisio'r sgiliau o'ch dewis - Gostyngiadau ar gael.
Chwech o sesiynau 20 munud, neu dreulio mwy o amser ar lai ohonynt.
 
7.30 Cinio
Ciniawau gyda blas y Dwyrain ac o Gymru + bar £11
8.15 Ocsiwn gyda chyflwynydd y BBC Kim Thomas
Dyma rai o'r gwobrau gwych i fynd o dan y morthwyl:
Paentiad gan Keone
Aderyn wedi’i wneud o ddeunyddiau naturiol gan Ffeltiau Fforest
Tylino cyfannol gan  Karen Kildegard
Pryd o fwyd dwy saig i ddau yn y Canteen,Trefdraeth
Pryd o fwyd dwy saig i ddau y Llys Meddyg
MOT yn Garej Trefdraeth
Casyn o gwrw Bluestone (bragdy grefftwr)
Coeden liwgar oddi wrth Dŷ Rhos
Therapi sacrol cranial gan Simon Whitehead
Ioga yn encil coetir Felinganol
Gwyliau ger Trefdraeth gyda thwb poeth

Rafl: gwobrau yn cynnwys siocled NomNom
 

Codi arian ar gyfer setlo dan nawdd cymunedol:
croeso i deuluoedd o Syria yn Aberteifi