Showing posts with label refugees. Show all posts
Showing posts with label refugees. Show all posts

04/03/2018

Taking action to bring refugee families together/ Gweithredu i aduno teuluoedd o ffoaduriaid at ei gilydd.

Dear Croeso Teifi Supporters,

As a Charity Croeso Teifi aims to provide aid to refugees and to work with other organisations sharing our charitable purposes. To this end I would like to bring your attention to the Amnesty initiative to take action in helping to bring refugee families together.

There is a Private Members' Bill on refugee family reunion that will have it's second reading in the House of Commons on March 16th 2018.

Could you urge your MP to attend the debate on 16th march and support the bill?

If so please go to link below to send your MP an email and find further information:

The bill seeks to: 
   *Expand the criteria of who qualifies as a 'family member' of a refugee;
   *Give child refugees in the UK the right to sponsor their family members to join them under the refugee family reunion rules;
   *Reintroduce legal aid for refugee family reunion applications, which stopped in 2013.

The bill, introduced by Angus MacNeil MP, is co-sponsored by a cross-party group of MPs who feel the current refugee family reunion rules are too restrictive.

To take action and help change the current situation go to:

I apologise for sending this to those who may have already taken action.
Thanks,
Best wishes,
Sally
 
 


 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Annwyl Gefnogwyr Croeso Teifi,
 
Yn ei rôl fel Elusen, mae Croeso Teifi yn anelu at ddarparu cymorth i ffoaduriaid a gweithio gyda sefydliadau eraill sy'n rhannu ein dibenion elusennol. I'r perwyl hwn hoffwn dynnu’ch sylw at fenter Amnest i weithredu i helpu i ddod â theuluoedd o ffoaduriaid yn ôl at ei gilydd.

Mae Mesur Aelodau Preifat ar aduno teuluoedd o ffoaduriaid a fydd yn cael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin 16eg mis Mawrth 2018.

A allech chi annog eich AS i fynychu'r ddadl ar 16eg o Fawrth ac i gefnogi'r mesur?

Os felly, ewch i'r ddolen isod i anfon e-bost at eich AS a dod o hyd i ragor o wybodaeth:



Mae'r mesur yn ceisio:
  * Ehangu meini prawf am bwy sy'n gymwys fel 'aelod o'r teulu' i ffoadur;
  * Rhoi hawl i ffoaduriaid sy’n blant yn y DU noddi aelodau o’u teuluoedd i ymuno â nhw o dan reolau aduno teuluoedd o ffoaduriaid;
  * Dod yn ôl â chymorth cyfreithiol ar gyfer ceisiadau aduno teuluoedd o ffoaduriaid, a beidiodd yn 2013.

Mae'r mesur, a gyflwynwyd gan Angus MacNeil AS, yn cael ei gyd-noddi gan grŵp trawsbleidiol o ASau sy'n teimlo bod y rheolau am aduno teuluoedd o ffoaduriaid yn rhy gyfyngol.

I weithredu a helpu i newid y sefyllfa bresennol ewch i:

Ymddiheuraf am anfon hyn at y rhai sydd efallai wedi gweithredu eisoes.
Diolch,
Dymuniadau gorau
Sally
 
 

03/03/2017

Croeso Cymunedol i Deuluoedd o Syria


Mae cynllun y llywodraeth o'r enw 'Nawdd Cymunedol' yn caniatáu i ni ddod â dau neu dri theulu awdurdodedig sy’n ffoi rhag rhyfel Syria i gartref diogel yn Aberteifi. Byddwn yn cwrdd â nhw yn y maes awyr ac yn darparu cartref a chynllun integreiddio. Gallant weithio o'r diwrnod cyntaf, a chael yr un budd-daliadau a chefnogaeth â theulu Prydeinig, am bum mlynedd. Gallant wedyn wneud cais i aros yma os dymunant, neu ddychwelyd i Syria os bydd yn briodol. Mae gennym gyfieithwyr, ysgolion, athrawon, cartrefi a ffrindiau yn barod ar eu cyfer.


Mae cynllun y llywodraeth yn mynnu bod digon o arian yn ein helusen er mwyn dangos ein bod yn gallu gwneud y gwaith yn dda. Mae angen i ni godi £9,000 i achub teulu. Os hoffech chi roi neu helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni

 Mae Nawdd Cymunedol:


·          ar wahân i gynlluniau'r llywodraeth


·          yn cael ei ariannu a’i redeg gan y gymuned


·          yn cael ei fonitro gan y Swyddfa Gartref


·          yn arloesol: mae hyn yn ffordd newydd i fynd i'r afael â heriau mewnfudo a ffoaduriaid yn y DU


·          wedi’i fodelu ar gynllun noddi cymunedol Canada sydd yn boblogaidd a llwyddiannus ac sy’n rhedeg ers 40 mlynedd.


·          yn agored i’r gymuned gyfan. Cysylltwch os hoffech helpu mewn unrhyw ffordd


·          yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol a gwasanaethau cyhoeddus


·          yn lledaenu i trwy Gymru
   

02/03/2017

A Community Welcome for Syrian Families


A government scheme named 'Community Sponsorship' allows us to bring two or three approved families fleeing from war-torn Syria to a safe home in Cardigan. We will meet them at the airport and provide a home and an integration plan. They can work from day one, and have the same benefits and support as a British family, for five years. They can then apply to stay here if they wish, or return to Syria if appropriate. We have interpreters, schools, teachers, homes and friends ready for them.

The government scheme demands that we have enough money in our charity to show that we can do the job well. We need to raise £9,000 to save a family. If you would like to donate or to help in any way, do get in touch.

 Community Sponsorship is:

·          separate from government schemes

·          paid for and run by the community

·          monitored by the Home Office

·          innovative: this is a new way to address the immigration and refugee challenges in the UK

·          modelled on Canada's successful popular scheme which has run for 40 years

·          open to the whole community. Get in touch if you would like to help in any way

·          working with the Local Authority and public services

·          spreading through Wales
Links:
Facebook
Twitter
Donate Volunteer Fundraise Contact // Rhoi Gwirfoddoli Codi Arian Cysylltu