Mae cynllun y llywodraeth o'r enw 'Nawdd Cymunedol'
yn caniatáu i ni ddod â dau neu dri theulu awdurdodedig sy’n ffoi rhag rhyfel
Syria i gartref diogel yn Aberteifi. Byddwn yn cwrdd â nhw yn y maes awyr ac
yn darparu cartref a chynllun integreiddio. Gallant weithio o'r diwrnod cyntaf,
a chael yr un budd-daliadau a chefnogaeth â theulu Prydeinig, am bum mlynedd.
Gallant wedyn wneud cais i aros yma os dymunant, neu ddychwelyd i Syria os bydd
yn briodol. Mae gennym gyfieithwyr, ysgolion, athrawon, cartrefi a ffrindiau yn
barod ar eu cyfer.
Mae cynllun y llywodraeth yn mynnu bod digon o arian yn ein helusen er mwyn dangos ein bod yn gallu gwneud y gwaith yn dda. Mae angen i ni godi £9,000 i achub teulu. Os hoffech chi roi neu helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni
Mae Nawdd Cymunedol:
·
ar wahân i gynlluniau'r
llywodraeth
·
yn cael ei ariannu a’i
redeg gan y gymuned
·
yn cael ei fonitro gan y
Swyddfa Gartref
·
yn arloesol: mae hyn yn
ffordd newydd i fynd i'r afael â heriau mewnfudo a ffoaduriaid yn y DU
·
wedi’i fodelu ar gynllun
noddi cymunedol Canada sydd yn boblogaidd a llwyddiannus ac sy’n rhedeg ers 40
mlynedd.
·
yn agored i’r gymuned
gyfan. Cysylltwch os hoffech helpu mewn unrhyw ffordd
·
yn gweithio gyda'r
Awdurdod Lleol a gwasanaethau cyhoeddus
·
yn lledaenu i trwy Gymru